Croeso i Ysgol Gynradd Talysarn

Ar ran yr holl staff a llywodraethwyr dymunaf eich croesawu i wefan yr ysgol. Lleolir yr ysgol yng nghanol pentref Talysarn. Darperir addysg ar gyfer disgyblion 3 – 11 oed. Derbynir plant i’r ysgol yn rhan amser ym Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed ac yn llawn amser ym Medi yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed.

Ein gweledigaeth fel ysgol yw fod pob disgybl yn cael cyfle i serennu beth bynnag fo ei cefndir ieithyddol, anghenion ychwanegol neu rhwystrau difreintedd. Ein dyletswydd fel ysgol yw hyrwyddo datblygiad pob disgybl i fod yn seren ddisglair.

Mae holl staff a llywodraethwyr yr ysgol yn gweithio’n galed i sicrhau fod yr ysgol yn cynnig amgylchedd hapus a chyfeillgar. Byddwn yn hyrwyddo, datblygu a darparu y disgyblion gyda sgiliau priodol ar gyfer addysg a bywyd yn yr 21fed ganrif. Gyda’n gilydd fel tîm o ddisgyblion, staff, rheini, llywodraethwyr a’r gymuned rydym yn llwyddo i greu awyrgylch croesawgar yn yr ysgol ac yn aml iawn bydd ymwelwyr yn cyfeirio at yr awyrgylch yma. Credwn yn gryf drwy sicrhau awyrgylch croesawgar, ysgogol, gofalgar a diogel bod y disgyblion yn datblygu i’w llawn potensial.

Rydym yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle teg i flodeuo yn ddisgyblion gyda ymdeimlad o flachder yn eu hunain, eu cyd ddisgyblion, eu rhieni, eu staff a’r gymuned ehangach. Rhoddir fri ar wobrwyo a chanmol llwyddiannau’r disgyblion yn gyson.

Gwireddwn ein gweledigaeth drwy ddarparu cwricwlwm amrywiol, cytbwys a chyfoethog a hynny drwy’r addysgu, cefnogaeth, paratoi profiadau gwerthfawr ac adnoddau da iawn.

Yn gywir,
G. Evans (Pennaeth)


Newyddion

Newyddlen Gwybodaeth i Deuluoedd GWYNEDD - Mawrth...mwy

Mae plant 3-7 oed nôl yn yr ysgol....mwy

Mynediad Meithrin/ Derbyn Medi 2021...mwy

Sut i ddefnyddio Teams ...mwy

Gwybodaeth Cychwyn yn ôl mis Medi Ysgol Talysarn ...mwy

Dewch i gyfarfod moch Mrs Hughes ...mwy

Fideo Dechrau'n Ôl ... mwy

Cyfeiriadur Cefnogaeth ac Adrodd ... mwy

Siop Siafins Pedwar Gweithdy Crefft hefo Lora Morgan ... mwy

Cofiwch pa mor bwysig ydi golchi eich dwylo er mwyn cadw yn saff ... mwy


Newyddion diweddaraf - cliciwch yma

Calendr