Newyddion

2020-21

Newyddlen Gwybodaeth i Deuluoedd GWYNEDD - Mawrth

29.03.21

Croeso i newyddlen mis Mawrth 2021 gan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Gwynedd....cliciwch yma i darllern Newyddlen Gwybodaeth i Deuluoedd GWYNEDD - Mawrth


Mae plant 3-7 oed nôl yn yr ysgol. Ond rhaid dal i gyfyngu'r feirws er mwyn cadw ysgolion a gofal plant ar agor. Felly cofiwch:

  • Dim rhannu lifft i'r ysgol ini bai bod rhaid
  • Gwisho masg i ollwng eich plant, a sgwrsio ar y ffôn nid wrth giât yr ysgol
  • Dwylo, wyneb, pellter - bob amser
  • I'r ysgol yn unig y mae'r swigen ysgol
  • Dim andon eich plentyn i'r ysgol is yw'n sâl - hyd yn oed os nad oes symptomau coronafeirws
  • Daw cyfle am bartïon penblwydd ac aros dros nos cyn bo hir... ond am y tro, diolch am eich ymdrechion i gadw ysgolion a gofal plant ar agor.
Giat Ysgol

Daw cyfle am sgwrs wrth giât yr ysgol cyn bo hir...
ond am y tro, i gadw'r ysgol a gofal plant ar agor, peidiwch â chymysgu gormod

Darllenwch y llythyrau isod am ddychwelyd i'r ysgol:


Poster Mynediad Meithrin/ Derbyn Medi 2021

Mynediad Meithrin/ Derbyn Medi 2021

Mynediad Meithrin/ Derbyn Medi 2021 - Dyddiad Cau wythnos nesaf 1/2/2021

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Santes Dwynwen — Nawddsant cariadon Cymru

25/01/2021

Cerddoriaeth ramantus, calonnau, blodau, siocledi a chardiau… yr holl bethau rydyn ni’n eu cysylltu â Dydd Santes Dwynwen yng Nghymru.

Ond beth yw’r stori go iawn? Pwy oedd Dwynwen a pham ei bod hi’n nawddsant cariadon Cymru?

Darganfyddwch pam fod 25 Ionawr 2021 yn ddiwrnod i ddathlu cariad, a sut y daeth Dwynwen yn santes a dreuliodd ei hoes yn gofalu am eraill, gan sicrhau eu bod yn dod o hyd i obaith a chryfder i ddilyn eu calonnau ac i fod yn hapus.


Yr EnfysSut i ddefnyddio Teams
14/01/21

Sut i ddefnyddio Teams ar gyfer Plant

Sut i ddefnyddio Teams ar gyfer Rhieni a Warchodwyr


Cynllun Darllen Teulu

15/10/20

Gwahoddiad i hyd at 6 teulu gymryd rhan yn y Cynllun Darllen Teulu 2020/21.

Dyma gyfle i deuluoedd plant blwyddyn Derbyn, Meithrin a Bl.1
fwynhau llyfrau a gwaith crefft gyda’i gilydd!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth...


Gwybodaeth Cychwyn yn ôl mis Medi Ysgol Talysarn

28/08/20

Cwestiynau Cyffredin rhieni wrth agor Ysgolion Gwynedd Medi

Cynlluniau a Threfniadau Ysgol Talysarn ar gyfer Cynllun ail-agor ym Medi 2020


2019-20

Siop Siafins
Gwisg Ysgol

17/07/20

Dyma ffurflen archebu gwisg ysgol, a fyddwch gystal ag ebostio eich archeb yn syth i'r cwmni - sales@motifwear.uk

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Dewch i gyfarfod moch Mrs Hughes.
03/07/20

 


 

Siop Siafins
Cyfeiriadur Cefnogaeth ac Adrodd

30/06/20

Yr ydym wedi llunio rhestr o wasanaethau cymorth, llinellau cymorth a phlatfformau adrodd a allai fod o ddefnydd i blant, rhieni, gofalwyr a’r rhai hynny sy’n gweithio â phlant.

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Siop Siafins
Siop Siafins
Pedwar Gweithdy Crefft hefo Lora Morgan

26/06/20

Creu Ffelt, Gwehyddu, Argraffu a Chreu Pompoms
Gorffennaf 6.12.20 a 27 @2.30
Ar MS Teams

Rhaid cofrestru o flaen llaw:
hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru

Mwy addas i blant Cyfnod Allweddol 1

 

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Cofiwch pa mor bwysig ydi golchi eich dwylo er mwyn cadw yn saff
22/06/20

 


Cynllun Gwên 
Diweddariad y Rhaglen Cynllun Gwên Mehefin 2020

12/06/20

 

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Llythyr Diwedd Hanner Tymor
22/05/20


Plantos yn Gweithio o Adref

18/05/20

  • 180520-llun-3-lrg
  • 180520-llun-2-lrg
  • 180520-llun-1-lrg

cliciwch yma i weld fwy o lluniau


Cefnogi Plant yn ystod Hunan Ynysu
Cefnogi Plant yn ystod Hunan Ynysu

13/05/20

 

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


LLEU - Papur Newydd Dyffryn NanlleLLEU - Papur Newydd Dyffryn Nanlle

04/05/20

 

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


29/04/20 I sylw rhieni!

Bore da, Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n saff.

Mae nifer ohonoch wedi cysylltu yn holi am fynediad at lyfrau neu e-lyfrau ar gyfer eich disgyblion.

Roeddem yn arfer cyd-weithio gyda chwmni RMBooks sydd bellach o dan Browns Books sy’n cynnig gwasanaeth e-lyfrau VLEbooks ar gyfer ysgolion cynradd.
Mae cost ynghlwm a’r adnodd yma ond falle o ddiddordeb i ambell ysgol sy’n awyddus buddsoddi mewn adnoddau digidol ar hyn bryd.

O ran gwybodaeth, mae modd i unrhyw blentyn a rhiant sy’n aelod o unrhyw lyfrgell yng Ngwynedd gael mynediad AM DDIM at e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronau! Y newyddion da ydy fod buddsoddiad yn cael ei wneud ar hyn o bryd er mwyn cynyddu’r nifer o e-lyfrau sydd ar gael.

Ydych chi’n mynd yn brin o ddeunyddiau darllen ar gyfer y plant? Cofiwch fod modd cael mynediad at e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronau AM DDIM drwy fod yn aelod o Lyfrgell Gwynedd.

Gellir lawrlwytho yr ap @BorrowBox i gael mynediad AM DDIM i e-lyfrau ac e-lyfraullafar.

Gellir lawrlwytho yr ap @RBdigitalUK er mwyn cael mynediad AM DDIM i gylchgronau a chomics.

Gellir creu cyfrif arwahan i blant ar eu dyfeisiadau personol drwy ddewis 'Wales Children's Library'

Yr unig beth fyddwch angen yw eich rhif aelodaeth. Os nad ydych yn aelod mae ymaelodi yn syml: Dilynwch y linc a chliciwch ar ymuno â'r Llyfrgell

Mae mwy o wybodaeth a links ar ein tudalen Facebook a Twitter Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries. Os oes gennych unrhyw ymholiadau croeso i chi anfon neges at - Llyfrgell@gwynedd.llyw.cymru


Neges BwysigCofiwch y neges bwysig yma...
18/04/20

 

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth

 


Codi Calon

Sialensau Codi Calon
14/04/20

Coginio cacen/cacennau Pasg.

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Yr Enfys

Yr Enfys - Cyfnod Allweddol 2
03/04/20

Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Yr Enfys’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Llythyr Canllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r COVID-19

Llythyr Canllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r COVID-19
16/03/20

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Dydd Miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru
07/02/20

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Cinio Eidalaidd

Cinio Eidalaidd
03/02/20

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Cinio Santes Dwynwen

Cinio Santes Dwynwen
24/01/20

 

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Hwyl i'r Teulu

Hwyl i'r Teulu
Gweithdy gyda Helen o Storiel ym Mhlas Silyn.

22/01/20

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Clwb brics

Clwb brics
Adeiladu octopws.
27/01/20

 

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Hwyl i'r Teulu

Hwyl i'r Teulu- Gweithdy gyda Helen o Storiel.

08/01/20

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth






Gystadleuaeth Llaeth y Llan

Gystadleuaeth Llaeth y Llan

cliciwch yma i weld fwy o wybodaeth


Hwyl i'r Teulu

Hwyl i'r Teulu - Addurn.

cliciwch yma i weld fwy o lluniau


Hwyl i'r Teulu

Hwyl i'r Teulu - Sioe Roald Dahl

29ain o Dachwedd.

cliciwch yma i weld fwy o lluniau


Easter Bingo

Sioe Mewn Cymeriad Roald Dahl ar gyfer teuluoedd 'Hwyl i'r Teulu'.

Bore Gwener yma dewch yn llu!


Easter Bingo

Hwyl i'r Teulu

Prynhawn 'Hwyl i'r Teulu' yn addurno cacennau Nadoligaidd. Cogyddion melysion y dyfodol y cacennau yn werth eu gweld. Diolch o galon Denise pawb wedi mwynhau yn arw.


Easter BingoSesiynnau Hwyl i'r Teulu efo'r Llyfrgell

Plant a rhieni yn mwynhau sesiynnau crefft a stori.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Plant Mewn Angen

Canlyniad gwych heddiw- £80 i elusen Plant Mewn Angen, diolch bawb!

Cliciwch yma i weld fideo


Easter BingoHer Nadoligaidd i’r Hen Blant Bach

Fe fydd Hen Blant Bach yn dychwelyd ar S4C y Nadolig hwn, a'r tro yma mae trigolion oedrannus ardal Dyffryn Nantlle yn ymuno â ffrindiau bach newydd i gynnal Sioe 'Dolig arbennig iawn.

Yn y gorffennol dangosodd Hen Blant Bach fod rhannu gofal dydd yr henoed a phlant bach yn fanteisiol i'r ddwy genhedlaeth. Ond sut bydd trigolion cartref gofal yn ymateb wrth fynd ati i gyd-berfformio Sioe Nadolig gyda phlant 5 oed o'r ysgolion lleol?

Yn arwain y cyfan mae brodor o Ddyffryn Nantlle, Ken Hughes, cyn Brifathro 70 oed a brofodd gryn lwyddiant dros y blynyddoedd gyda'i sioeau cerdd a chaneuon actol mewn Eisteddfodau led led Cymru. Ac yntau wedi ymddeol ers blynyddoedd, mi oedd hon yn her oedd yn codi ofn arno.

"Mae gen i brofiad oes o weithio efo plant, ond dim profiad o weithio gyda'r henoed,' meddai Ken.

"Felly yn sicr mi oedd ceisio creu sioe efo plant pump oed, ac oedolion yn eu wythdegau a nawdegau yn her enfawr.”

Dros gyfnod o wythnosau, fe ddaeth preswylwyr Cartref Plas Gwilym ym Mhenygroes i adnabod plant o Ysgolion Talysarn, Bro Lleu a Llanllyfni yn dda, gan dreulio sawl awr ddifyr yng nghwmni ei gilydd. Yr her i Ken oedd castio ar gyfer prif gymeriadau drama Nadoligaidd o blith y ddwy genhedlaeth, gan gynnwys rhai trigolion bregus.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoHyfforddiant Cymorth Cyntaf

Blwyddyn 3,4,5 a 6 yn cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoDdiogel ar y Ffyrdd

Blwyddyn 1 a 2 yn dysgu sut i fod yn ddiogel ar y ffyrdd yn y Gymuned gyda Anti Shirley Kirb Kraft

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoClwb Brics

Bydd y Clwb Brics yn cychwyn unwaith eto eleni. Bob nos Fawrth am 7 wythnos, sesiwn gyntaf dydd Mawrth, Medi 10fed o 3.15-4.15yh. Bydd angen cofrestru eich plentyn a thalu £17.50 ar-lein er mwyn mynychu y 7 sesiwn gan ddefnyddio y linc isod:

Cliciwch yma i dalu ar-lein

This club runs every Tuesday from 18th November 2019. Full Description: Ysgol Gynradd Talysarn 2 weeks from 18th November (Saesneg yn unig)

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoYmewlwyr Arbennig

Profiad anhygoel iawn ddoe, cafodd yr ysgol ymwelwyr arbennig iawn! Daeth Islwyn i ddangos ei Dylluanod arbennig iawn.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Cliciwch yma i weld fideo


Easter BingoBore Coffi

Diolch i bawb am gefnogi Bore Coffi eto leni- £307 tuag at Elusen MacMillan, gwych.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoSioe mewn Cymeriad Taith yr Iaith

Y plant iau wedi cael prynhawn difyr yn gwylio Sioe Mewn Cymeriad am hanes yr Iaith Gymraeg

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoFfair Nadolig

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Easter BingoPoster Hwyl i'r Teulu

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Easter BingoHwyl i'r Teulu

Clwb 'Hwyl i'r Teulu', sesiwn blasu Dawns i Bawb. Pawb wedi cael andros o hwyl a llond ei boliau o de bach!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoPrynhawn Sgon a Sgwrs

Prynhawn difyr iawn yn sgwrsio dros baned a sgon! Diolch i chi am eich cefnogaeth parod.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoDiogelwch y Ffyrdd

Mae plant Y Cyngor Ysgol wedi bod yn cydweithio gyda Anti Shirley Swyddog Diogelwch y Ffyrdd yn ddiweddar i geisio edrych ar sut y gellid cadw plant yr ysgol yn ddiogel trwy wella y problemau traffig sydd ger yr ysgol.

Nodyn atgoffa - DIM PARCIO ar y llythrennau ger y giât nac ar y llinellau dwbl melyn ar unrhyw adeg os gwelwch yn dda.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Easter BingoLlofnod Dysgu Teulu

A few families filling their Signatures this morning for the family learning project this morning, thank you. We are looking forward to work on various interesting projects.

More families are more than welcome to join us, get in touch for more information.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Archif Newyddion

Bingo PasgBingo Pasg

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

imageBlwyddyn Derbyn 1 a 2 yn Fu's

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imagePrynhawn Blasu

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageGwasanaeth Nia o Coleg Y Bala

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageGwasanaeth Diolchgarwch

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageLlofnod Dysgu Teulu

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageNadolig 2017

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageGweithgareddau Blwyddyn 3 a 4

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageCymhwysedd Digidol

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageBore Coffi McMillan

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageProsiect Llofnod Dysgu Teulu

Teuluoedd blwyddyn 1 a 2 yn gweithio gyda'r Llyfrgell fel rhan o brosiect Llofnod Dysgu Teulu.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageTy Newydd Llanystumdwy

Blwyddyn 5 a 6 wedi bod ar ymweliad preswyl yn Nhy Newydd Llanystumdwy yn gweithio gyda Mari Emlyn ar prosiect cyffroes iawn ar y cyd a Ysgol Brynaerau

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


imageLofnod Dysgu Teulu

Llofnod 2017 wedi cychwyn, 8 Teulu gweithgar iawn wedi cwblhau'r llofnod ac yn awyddus yn y gweithdai.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

Cydnabod Rhagoriaeth

Gwobrau Estyn 2016-2017

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein ffilm fer sy'n cynnwys y rhagoriaeth o'n noson wobrau.

Diolch i bawb a gymerodd ran.

Gwyliwch y ffilm - cliciwch yma

 

imageLleu – Ysgol Talysarn - Ebrill 2016

Aeth rhai o blant Blwyddyn 4,5 a 6 ar daith preswyl i Gaerdydd am dri diwrnod ar Ebrill 11eg. Cafodd y disgyblion amser gwych yn ymweld â rai o brif atyniadau’r brifddinas gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm, Y Senedd, Techniquest a Sain Ffagan. Bu’r criw yn ffodus iawn o gael aros yng Nghanolfan yr Urdd a chael cyfle i ymlacio rhywfaint hefyd gyda’r nos drwy gael mynd i’r pictiwrs ac i fowlio deg. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i’r disgyblion.
Daeth Theatr Maldwyn draw i’r ysgol yn ddiweddar i berffomio sioe am yr Ail Ryfel Byd gan bod y disgyblion hynaf yn astudio’r Rhyfel. Cafodd y plant gyfle i fod yn rhan o’r sioe, roedd pob un wedi mwynhau yn fawr.
Cafodd plant Blwyddyn 1 a 2 gyfle i ymweld â Chanolfan Mari Jones yn Y Bala dechrau’r mis gan eu bod wedi bod yn astudio hanes Mari a’r Beibl. Cafodd y disgyblion wisgo fyny fel pobl y cyfnod a chymeryd rhan mewn sawl gweithgaredd tra y buont yno. Roedd pawb wedi mwynhau y diwrnod yn fawr.


imageMr Urdd

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


imageEisteddfod Ysgol Talysarn

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


Newyddion Chwefror

Aeth plant Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 ar ymweliad i Sŵ Bae Colwyn yn ddiweddar gan eu bod yn astudio thema Pengwiniaid y tymor yma. Roedd pob un wedi mwynhau yn fawr.

Cafodd plant hynnaf yr ysgol gyfle i gymeryd rhan mewn sesiynau hoci gan Hoci Cymru. Mwynhaodd y disgyblion yn fawr ac meant yn edrych ymlaen am sesiynau pellach.

Cynhelir Wythnos y Ddraig yn yr ysgol dechrau mis Mawrth. Roedd llawer o weithgareddau amrywiol wedi ei drefnu yn ystod yr wythnos gan gynnwys prynhawn o grefftau Cymreig, sgwrs gan Swyddog Marchnata yr Urdd ac ymweliad gan Mr Urdd, gweithdy ysgrifennu gan yr awdures Angharad Tomos, Disgo Cymraeg ac i gwblhau’r wythnos Eisteddfod Ysgol. Llongyfarchiadau mawr i’r holl unigolion a ddaeth i’r brig yn ystod y diwrnod. Llwyddodd Osian Llyfni i gipio y gadair am ysgrifennu stori gyda Elan yn ail a Ffion yn drydydd. Llwyddodd tîm Llifon i ennill y darian eleni.
Bu un parti adrodd yn Eisteddfod Cylch y Dalgylch dydd Sadwrn, Chwefror 27ain. Hoffem ganmol y plant am eu hymdrechion ar ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth.

Cynhaliwyd Wasanaeth Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y cyntaf, gwahoddwyd llywodraethwyr i’r gwasanaeth a’r cinio, roedd pob dosbarth yn cymeryd rhan yn y dathlu. Diolch hefyd i Anti Mandy ac Anti Elen y cogyddion am fod wrthi yn brysur yn coginio cinio Dydd Gŵyl Dewi.

Cafodd plant Blwyddyn 5 gyfle i berfformio darn offerynnol yn seiliedig ar yr ymfudwyr yn ffoi o Syria fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor. Cafodd y disgyblion berfformio eu gwaith ar y Stryd Fawr ym Mangor. Profiad arbennig i’r holl ddisgyblion o gael gweithio gyda’r gyfansoddwraig Mared Emlyn.

Cynheliwyd sesiynau Hwyl i’rTeulu yn yr ysgol yn wythnosol yn ddiweddar. Roedd y sesiynau yn rhai amrywiol gan gynnwys sesiynau canu, dweud stori a chreu crefftau. Daeth rhieni draw i’r sesiynau hwyliog gyda’u plant ar ôl ysgol.

Hoffem ddiolch yn fawr i Meinir Owen, myfyrwraig o Brifysgol Bangor a fu’n addysgu plant Blwyddyn 3 a 4 yn ddiweddar. Dymunwn pob hwyl iddi yn y dyfodol.