Ysgol
Croeso i Adran Yr Ysgol
Ein gweledigaeth yn Ysgol Talysarn yw darparu ysgol ble mae’r holl ddisgyblion, staff, Llywodraethwyr a’r gymuned ehangach yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig amgylchedd groesawgar, ysgogol a diogel, er mwyn annog dysgu effeithiol. Amcanwn at fagu ymdeimlad o falchder yn y plentyn, yr ysgol a’r gymuned.
Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a’i barchu a rhoddwn fri a phwyslais arbennig ar ddathlu llwyddiannau. Ceisiwn wireddu hyn trwy ddarparu Cwricwlwm amrywiol, cytbwys a chyfoethog gyda digon o brofiadau dysgu diddorol, amrywiol ac adnoddau cyfredol a chyfoethog i ysgogi chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn, waeth beth fo’i allu, hil neu ryw. Yn ei dro bydd hyn yn paratoi’r disgyblion ar gyfer eu dyfodol fel dinasyddion lleol a byd eang. Gosodir gwreiddiau cadarn yn eu milltir sgwâr, a’u Cymreictod, teyrngarwch tuag at y gymuned leol a’u hetifeddiaeth tra ar yr un pryd yn datblygu parch at gred a diwylliannu eraill.
Rydym eisiau i blant Ysgol Talysarn adael yr ysgol yn ddisgyblion hyderus, yn mwynhau dysgu, wedi’u harfogi gyda sgiliau i fod yn ddysgwyr gydol oes, yn barod i wynebu sialensiau a dysgu’n annibynnol, yn gallu cyd-weithio ac yn gallu cymhwyso sgiliau ymchwilio amrywiol i wahanol sefyllfaoedd.
Mae’r plant, eu haddysg, eu lles, a’u gallu i gyfrannu tuag at benderfyniadau yn ymwneud â’r ysgol yn flaenoriaeth yn Ysgol Talysarn. Mae cyfranogiad gweithredol y plant yn eu dysgu a’r hyn a ddysgir yn hanfodol a’u hawgrymiadau yn llywio newid i amgylchedd yr ysgol.
Yn yr adran yma:
- Gwybodaeth
- Pwy ydi Pwy
- Ysgol Iach
- Ysgol Eco/ Ysgol Werdd
- Mentergarwch
- Cyngor Ysgol
- Taith Weledol
- Llywodraethwyr
- Adroddiad Estyn
- Siarter Iaith
- Polisiau